P-04-424
: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Geiriad y
ddeiseb
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wyrdroi’r
penderfyniad i symud yr holl Feddygon CT2 o Ysbyty Castell-nedd
Port Talbot yn yr hydref heb ymgynghori â’r cyhoedd o
flaen llaw. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu na fydd
gwasanaethau meddygol aciwt yn cael eu darparu yn yr ysbyty, a bydd
rhaid i gleifion deithio i Dreforys yn Abertawe neu i Ysbyty
Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael gwasanethau o’r
fath. Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ysbyty Menter
Cyllid Preifat o’r radd flaenaf, ac mae trigolion yr ardal
hon am i wasanaethau sydd mor hanfodol gael eu cadw yn ysbyty
Castell-nedd Port Talbot.
Prif
ddeisebydd: Carolyn
Edwards
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 193 o lofnodion. Casglwyd dros 5000 o lofnodion
gan ddeisebau cysylltiedig.